| Dilysrwydd ac Amodau Tocyn
|
|
1. Gallwch deithio ar y rheilffordd ar ôl 09.00 Dydd Llun tan Ddydd Gwener, neu unrhyw bryd ar y llwybrau canlynol:
2. Gallwch deithio ar y rheilffordd unrhyw bryd ar Ddydd Sadwrn, Dydd Sul neu Wyliau Banc 3. Does dim cyfyngiadau amseryddol wrth deithio ar fws 4. Mae Pas Hyblyg Rhyddid Cymru 4 diwrnod mewn 8 yn caniatáu i chi deithio ar y trên am bedwar diwrnod a fewn cyfnod o wyth diwrnod yn olynol. Mae Pas Hyblyg 8 diwrnod mewn 15 yn caniatáu i chi deithio am wyth diwrnod ar y trên o fewn cyfnod o bymtheg diwrnod yn olynol. Mae Pas Hyblyg i deithio ar y bws am wyth diwrnod a phymtheg diwrnod llawn. Mae tocyn Teithio Hyblyg Rhyddid De Cymru 3 diwrnod mewn 7 yn caniatáu i chi deithio ar y trên am dri diwrnod o fewn cyfnod o saith diwrnod yn olynol a theithio ar y bws bob dydd o'r saith. Mae Tocyn Teithio Hyblyg Rhyddid Gogledd a Chanolbarth Cymru 3 diwrnod mewn 7 yn caniatáu i chi deithio ar y trên a'r bws am dri diwrnod o fewn cyfnod o saith diwrnod yn olynol. 5. I bob gostyngiad arall i atyniadau twristiaid, Hosteli Ieuenctid maen nhw ar gael yn ystod cyfnod dilysrwydd y tocyn Hyblyg yn unig. 6. Cyfeiriwch at y map o fewn y daflen hon am fanylion llwybraur prif linellau rheilffordd y gallwch eu defnyddio gydach tocyn Hyblyg 7. Mae gwasanaethaur cwmnïau bws canlynol ym mhris y Pas Hyblyg ar Tocyn Hyblyg: Tocyn Hyblyg Gogledd a Chanolbarth Cymru a Phas Hyblyg Crwydro Cymru Tocyn Hyblyg Crwydro De Cymru a Phas Hyblyg Crwydro Cymru Edrychwch ar ein gwefan am fanylion gweithredwyr sydd wedi ymuno âr fenter hon ers ir daflen hon gael ei chynhyrchu. 8. Rhaid cyflawnir teithio erbyn canol nos ar bob diwrnod teithio. 9. Os ydych chin bwriadu teithio ar y rheilffordd ar amseroedd prysur megis gwyliau a nosweithiau Gwener argymhellwn eich bod yn archebu sedd. Os ydych yn bwriadu teithio gyda beic rhaid i chi sylweddoli na chaniateir mynd â beic ar rai trenau prysur a bod gofyn archebu lle beic ar nifer o drenau. Ni ellir rhoi beic ar fws fel arfer. 10. Ni wneir ad-daliadau oni ddychwelir y Pas Hyblyg ir swyddfa lle cafodd ei brynu cyn dyddiad teithio cyntaf a ganiateir. Prisiaun ddilys hyd 25 Medi 2004 Tra bod pob ymgais wedii wneud i sicrhau cywirdeb yn y cyhoeddiad hwn, ni all y cyhoeddwyr dderbyn cyfrifoldeb o gwbl am wallau, camgymeriadau neu hepgoriadau, neu am unrhyw fater wedii gysylltu â neun codi o gyhoeddir wybodaeth. Ffotograffau trwy ganiatâd caredig:
Fe gyllidwyd y prosiect yma gan gymorth o Gronfa Cyllid Rhanbarthol Ewrop. |