|
Mae ein rhwydwaith o wasanaethau yn fynedfa i rywfaint or golygfeydd prydferthaf yn y byd. Beth am gyfuno cyflymder y trên âr gallu i ymlacio âr rhyddid a geir wrth feicio?
Mae ein trenau glân a chyfeillgar yn darparu ar gyfer y nifer cynyddol o feicwyr brwd o amgylch Cymru, gan eu helpu i deithio o amgylch yn gyflym ac yn hwylus ac yn aml, am ddim.
Os ydych yn bwriadu mynd âch beic, dyma ychydig o gyngor i ystyried:
- dim ond ychydig o le sydd gan ein trenau i gludo beiciau, ond rydym yn anelu at wneud pethau mor hawdd ag y gallwn i chi.
- bydd angen i chi archebu sedd a thalu i fynd âch beic ar rai gwasanaethau. I weld pa rai, edrychwch ar ein taflen Beicio ar y Trên taflenni (Islwytho'r PDF), neu trwy ffonio 0870 9000 772. Byddain well i chi archebuch sedd o leiaf 24 awr o flaen llaw.
- ar wasanaethau eraill, gellir cludo beiciau am ddim, cyhyd â bod lle ar gael, ac nid oes angen archebu o flaen llaw. Ar y gwasanaethau hyn, mae lle yn cael ei ddyrannu ar sail y cyntaf ir felin.
- ar rai rhannau prysur o deithiau, ni ellir cludo beiciau yn ystod oriau brig, oni bai eich bod wedi archebu sedd o flaen llaw.
- yn ystod cyfnodau o waith peirianneg, ni fyddwch yn gallu mynd âch beic ar wasanaethau bws amgen.
|