Freedom of Wales Flexi Pass - Pas Fflecsi Crwydro Cymru
Testun yn unig English
Search site:
Hafan Pas Fflecsi - Eich dewis chi Atyniadau Cynlluniwr Teithio Gwestai Prynu Tocyn Cwestiynau Cysylltiadau Cysylltu â ni
Dilysrwydd ac Amodau
Oes gennych ddiddordeb? Cliciwch yma i brynu Pas Fflecsi nawr >
Dilysrwydd ac Amodau Tocyn


1. Gallwch deithio ar y rheilffordd ar ôl 09.00 Dydd Llun tan Ddydd Gwener, neu unrhyw bryd ar y llwybrau canlynol:

  • gwasanaethau Rheilffordd Calon Cymru yn unig rhwng Abertawe, Llandrindod ac Amwythig
  • gwasanaethau rhwng Porthladd Abergwaun, Aberdaugleddau, Doc Penfro a Chaerfyrddin
  • gwasanaethau rhwng Aberystwyth, Machynlleth a Phwllheli
  • gwasanaethau rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog ar hyd Dyffryn Conwy

2. Gallwch deithio ar y rheilffordd unrhyw bryd ar Ddydd Sadwrn, Dydd Sul neu Wyliau Banc

3. Does dim cyfyngiadau amseryddol wrth deithio ar fws

4. Mae Pas Hyblyg Rhyddid Cymru 4 diwrnod mewn 8 yn caniatáu i chi deithio ar y trên am bedwar diwrnod a fewn cyfnod o wyth diwrnod yn olynol. Mae Pas Hyblyg 8 diwrnod mewn 15 yn caniatáu i chi deithio am wyth diwrnod ar y trên o fewn cyfnod o bymtheg diwrnod yn olynol. Mae Pas Hyblyg i deithio ar y bws am wyth diwrnod a phymtheg diwrnod llawn. Mae tocyn Teithio Hyblyg Rhyddid De Cymru 3 diwrnod mewn 7 yn caniatáu i chi deithio ar y trên am dri diwrnod o fewn cyfnod o saith diwrnod yn olynol a theithio ar y bws bob dydd o'r saith. Mae Tocyn Teithio Hyblyg Rhyddid Gogledd a Chanolbarth Cymru 3 diwrnod mewn 7 yn caniatáu i chi deithio ar y trên a'r bws am dri diwrnod o fewn cyfnod o saith diwrnod yn olynol.

5. I bob gostyngiad arall – i atyniadau twristiaid, Hosteli Ieuenctid – maen nhw ar gael yn ystod cyfnod dilysrwydd y tocyn Hyblyg yn unig.

6. Cyfeiriwch at y map o fewn y daflen hon am fanylion llwybrau’r prif linellau rheilffordd y gallwch eu defnyddio gyda’ch tocyn Hyblyg

7.Mae gwasanaethau’r cwmnïau bws canlynol ym mhris y Pas Hyblyg a’r Tocyn Hyblyg::

Tocyn Hyblyg Gogledd a Chanolbarth Cymru a Phas Hyblyg Crwydro Cymru
Arriva Cymru, Berwyn Coaches, Bryn Melyn, Caelloi, Clynnog & Trefor, Express Motors, GHA Coaches, KMP (Llanberis), M & H Travel, Tanat Valley Coaches, Townlynx, Silver Star a holl wasanaethau bws a gefnogir gan awdurdodau lleol Gwynedd ac Ynys Môn. Hefyd gwasanaethau Arriva Midland North rhwng Amwythig, Y Drenewydd a Llanidloes, Y Trallwng a Chroesoswallt a Wrecsam a Chroesoswallt.

Tocyn Hyblyg Crwydro De Cymru a Phas Hyblyg Crwydro Cymru
Bebb Travel, Bws Caerdydd, Crossgates Coaches, First, Glyn Williams Travel, Trafnidiaeth Bwrdeistref Islwyn, Trafnidiaeth Casnewydd, Richards Bros., Roy Brown’s Coaches, Shamrock Coaches, Silcox Coaches, Stagecoach yn Ne Cymru, Summerdale Coaches, Sixty- Sixty coaches, Morris Travel o Gaerfyrddin. Hefyd gwasanaethau Arriva Cymru rhwng Aberystwyth ac Aberaeron, Tregaron a Phontrhydfendigaid, a gwasanaeth 701 Traws Cambria; gwasanaethau 416 Henffordd – Trefynwy Cyngor Swydd Henffordd (wedi’i weithredu gan Dukes Travel) a 40 (ar y Sul); Henffordd – Y Gelli – Aberhonddu (wedi’i weithredu gan Yeomans Canon Travel); a gwasanaethau 461 a 462 Sargeant Brothers Coaches rhwng Llandrindod a Henffordd. Gwasanaethau arbennig ‘Bws Y Bannau’ ar y Sul yn yr Haf sy’n cael eu rhedeg gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Edrychwch ar ein gwefan am fanylion gweithredwyr sydd wedi ymuno â’r fenter hon ers i’r daflen hon gael ei chynhyrchu

8. Rhaid cyflawni’r teithio erbyn canol nos ar bob diwrnod teithio.

9. Os ydych chi’n bwriadu teithio ar y rheilffordd ar amseroedd prysur megis gwyliau a nosweithiau Gwener argymhellwn eich bod yn archebu sedd. Os ydych yn bwriadu teithio gyda beic rhaid i chi sylweddoli na chaniateir mynd â beic ar rai trenau prysur a bod gofyn archebu lle beic ar nifer o drenau. Ni ellir rhoi beic ar fws fel arfer.

10. Ni wneir ad-daliadau oni ddychwelir y Pas Hyblyg i’r swyddfa lle cafodd ei brynu cyn dyddiad teithio cyntaf a ganiateir.

Prisiau’n ddilys hyd 31 Rhagfyr 2006
Cyhoeddwyd gan Trenau Arriva Cymru

Tra bod pob ymgais wedi’i wneud i sicrhau cywirdeb yn y cyhoeddiad hwn, ni all y cyhoeddwyr dderbyn cyfrifoldeb o gwbl am wallau, camgymeriadau neu hepgoriadau, neu am unrhyw fater wedi’i gysylltu â neu’n codi o gyhoeddi’r wybodaeth.

Ffotograffau trwy ganiatâd caredig:

  • CADW: Welsh Historical Monuments. Hawlfraint Y Goron.
  • Llyfrgell Ffotograffig Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
  • Llyfrgell Ffotograffig Bwrdd Croeso Cymru.
  • Robert Eames.

Fe gyllidwyd y prosiect yma gan gymorth o Gronfa Cyllid Rhanbarthol Ewrop.

Map o'r wefan | Dilysrwydd ac Amodau Tocyn | Termau a Thelerau'r wefan | Polisi Preifatrwydd