Freedom of Wales Flexi Pass - Pas Fflecsi Crwydro Cymru
Testun yn unig English
Search site:
Hafan Pas Fflecsi - Eich dewis chi Atyniadau Cynlluniwr Teithio Gwestai Prynu Tocyn Cwestiynau Cysylltiadau Cysylltu â ni
Pas Fflecsi
Eich Tocyn i Deithio
Pas Hyblyg Crwydro Cymru Gyrfan 8 dydd
Tocyn Hyblyg Crwydro De Cymru
Tocyn Hyblyg Gogledd a Chanolbarth Cymru
Oes gennych ddiddordeb? Cliciwch yma i brynu Pas Fflecsi nawr >
Pas Hyblyg Crwydro Cymru


Darganfyddwch Gymru ar drên a bws

Mae Pas Hyblyg Crwydro Cymru yn hunan-esboniadwy – un tocyn ydyw sy’n rhoi rhyddid i chi fwynhau mynediad diddiwedd i holl wasanaethau trên a bron pob gwasanaeth bws yng Nghymru. A dyna’r dechrau’n unig.

Mae deiliaid tocyn hefyd yn derbyn ystod anhygoel o fanteision eraill, gan gynnwys mynediad 'dau am bris un' neu fynediad pris gostyngedig i atyniadau twristiaid mwyaf Cymru.

Ymunwch â’r rhifau cynyddol o deithwyr annibynnol sy’n defnyddio trenau a bysiau i ddarganfod Cymru. Rydym yn ymwybodol y byddwch wedi’ch synnu gan faint o’r wlad sydd o fewn eich cyrraedd trwy wasanaethau rheilffordd rhanbarthol.

A lle nad yw’r trenau’n cyrraedd, mae bysiau fel arfer yn cyrraedd. Mae’n rhwydweithiau trên a bws yn gwau at ei gilydd i ddarparu mynediad i bron pob cwr o’r wlad brydferth hon.

Dyfeisiwch eich amserlen deithio eich hun gan ddefnyddio ein Canllaw Teithio, a ddarperir i bob teithwyr Pas Hyblyg Crwydro Cymru ac sy’n cynnwys mapiau, crynodebau mynediad i atyniadau a manylion cysylltu ar gyfer yr holl ffynonellau gwybodaeth yr ydych ei angen ar gyfer cynllunio’ch amserlen.

Gall gwasanaeth Gwybodaeth Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru Gyfan 'Traveline Cymru'ddarparu gwybodaeth amserlen ar drenau, bysiau a systemau trafnidiaeth gyhoeddus eraill, ffoniwch 0871 200 22 33. Mae gwybodaeth rheilffordd yn unig ar gael drwy ffonio 08457 48 49 50.

Os ydych ar grwydr yng Nghymru yn 2008 yna mynnwch gael Pas Crwydro Cymru – y fargen deithio na allwch chi fforddio ei cholli.

Map o'r wefan | Dilysrwydd ac Amodau Tocyn | Termau a Thelerau'r wefan | Polisi Preifatrwydd