|
1. Pryd y maen bosib i deithio gyda fy Mhas Fflecsi?
2. Beth maer Pas Fflecsi 4 diwrnod o fewn 8 diwrnod yn fy ngalluogi i wneud?
3. Ar ba weithredwyr bws fedra i ddefnyddio fy Mhas Fflecsi?
4. Beth mae Pas Fflecs De Cymru yn fy ngalluogi i wneud?
5. Beth mae Pas Fflecs Gogledd a Chanolbarth Cymru yn fy ngalluogi i wneud?
6. Pryd fedrai i gymryd mantais or disgownt a gynigir gyda fy Mhas Fflecs?
7. Oes gennych unrhyw gyngor wrth deithio ar drên?
8. Sut fedrai i gael ad-daliad os oes angen?
9. Beth ddylwn iw wneud os nad yw fy nhocynnau yn cyrraedd?
10. Os oes gennyf anghenion teithio arbennig, beth ddylwn ei wneud?
11. Pa mor ddiogel yw fy nhaliad?
1. Pryd y maen bosib i deithio gyda fy Mhas Fflecsi?
Gallwch deithio ar y trên ar ôl 09.00 Dydd Llun i Ddydd Gwener, neu unrhyw bryd ar y llwybrau canlynol:
gwasanaethau Rheilffordd Calon Cymru yn unig rhwng Abertawe, Llandrindod ac Amwythig
gwasanaethau rhwng Porthladd Abergwaun, Aberdaugleddau, Doc Penfro a Chaerfyrddin
gwasanaethau rhwng Aberystwyth, Machynlleth a Phwllheli
gwasanaethau rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog ar hyd Dyffryn Conwy
gwasanaethau rhwng Wrecsam Canolog a Bidston
Gallwch deithio ar y rheilffordd unrhyw bryd ar Ddydd Sadwrn, Dydd Sul neu Wyliau Banc. Does dim cyfyngiadau amseryddol wrth deithio ar fws.
Rhaid cyflawnich taith erbyn canol nos ar bob diwrnod.
Cyfeiriwch at y llwybrau map ar y we fan hon am fanylion or rhwydwaith trên y gallwch ddefnyddio eich Pas Fflecsi.
2. Beth maer Pas Fflecsi 4 diwrnod o fewn 8 diwrnod yn fy ngalluogi i wneud?
Mae Pas Hyblyg Rhyddid Cymru 4 diwrnod mewn 8 yn caniatáu i chi deithio ar y trên am bedwar diwrnod a 8 diwrnod ar y bws o fewn cyfnod o wyth diwrnod yn olynol fel y dangosir ar y llwybrau map. Maer Pas yn eich caniatau i deithio ar y bws am wyth diwrnod lawn.
3. Ar ba weithredwyr bws fedra i ddefnyddio fy Mhas Fflecsi?
Cardiff Bus, Clarkes of Tredegar, Crossgates Coaches, EST Travel, First, Francis Drake Travel, Harris Coaches (Pengam), Henleys Bus Service, Hoggan’s European Coaches (Neath), Islwyn Borough Transport, Newport Transport, Richards Bros., Roy Brown’s Coaches, Silcox Coaches, Stagecoach in South Wales, Summerdale Coaches, Sixty-Sixty coaches, Morris Travel of Carmarthen and Veolia.
Hefyd gwasanaethau Arriva Cymru rhwng Aberystwyth ac Aberaeron, Tregaron a Phontrhydfendigaid, a gwasanaeth 701 Traws Cambria; gwasanaethau 416 Henffordd – Trefynwy Cyngor Swydd Henffordd (wedi’i weithredu gan Stagecoach West) a 40 (ar y Sul); Henffordd – Y Gelli – Aberhonddu (wedi’i weithredu gan Yeomans Canon Travel); a gwasanaethau 461 a 462 Sargeant Brothers Coaches rhwng Llandrindod a Henffordd. Gwasanaethau arbennig ‘Bws Y Bannau’ ar y Sul yn yr Haf sy’n cael eu rhedeg gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Arriva Cymru, Berwyn Coaches, Bryn Melyn, Caelloi, Clynnog & Trefor, Express Motors, GHA Coaches, John’s Coaches (Blaenau Ffestiniog), KMP (Llanberis), Llew Jones (Llanrwst), M & H Travel, Tanat Valley Coaches, Townlynx, Silver Star, Williams o Griccieth a holl wasanaethau bws a gefnogir gan awdurdodau lleol Gwynedd ac Ynys Môn. Hefyd gwasanaethau Arriva Midland North rhwng Amwythig, Y Drenewydd a Llanidloes, Y Trallwng a Chroesoswallt a Wrecsam a Chroesoswallt.
4. Beth mae Pas Fflecs De Cymru yn fy ngalluogi i wneud?
Mae tocyn Teithio Hyblyg Rhyddid De Cymruyn caniatáu i chi deithio ar y trên am 4 diwrnod ac 8 diwrnod ar y bws o fewn y cyfnod hwnnw ar y cwmniai bws canlynol:
Bws Caerdydd, Clarkes o Dredegar, Crossgates Coaches, EST Travel, First, Francis Drake Travel, Harris Coaches (Pengam), Henleys Bus Service, Hoggan’s European Coaches (Castell Nedd), Islwyn Borough Transport, Newport Transport, Richards Bros., Roy Brown’s Coaches, Silcox Coaches, Stagecoach yn New Cymru, Summerdale Coaches, Sixty-Sixty coaches, Morris Travel o Gaerfyrddin a Veolia
Hefyd gwasanaethau Arriva Cymru rhwng Aberystwyth ac Aberaeron, Tregaron a Phontrhydfendigaid, a gwasanaethau Traws Cambria; gwasanaethau 416 Henffordd – Trefynwy Cyngor Swydd Henffordd (wedi’i weithredu gan Stagecoach West) a 40 (ar y Sul); Henffordd – Y Gelli – Aberhonddu (wedi’i weithredu gan Yeomans Canon Travel); a gwasanaethau 461 a 462 Sargeant Brothers Coaches rhwng Llandrindod a Henffordd. Gwasanaethau arbennig ‘Bws Y Bannau’ ar y Sul yn yr Haf sy’n cael eu rhedeg gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
5. Beth mae Pas Fflecs Gogledd a Chanolbarth Cymru yn fy ngalluogi i wneud?
Mae Tocyn Teithio Hyblyg Rhyddid Gogledd a Chanolbarth Cymru yn caniatáu i chi deithio ar y trên am 4 diwrnod ac 8 diwrnod ar y bws o fewn y cyfnod hwnnw ar y cwmniau bws canlynol:
Arriva Cymru, Berwyn Coaches, Bryn Melyn, Caelloi, Clynnog & Trefor, Express Motors, GHA Coaches, John’s Coaches (Blaenau Ffestiniog), KMP (Llanberis), Llew Jones (Llanrwst), M & H Travel, Tanat Valley Coaches, Townlynx, Silver Star, Williams o Griccieth a holl wasanaethau bws a gefnogir gan awdurdodau lleol Gwynedd ac Ynys Môn. Hefyd gwasanaethau Arriva Midland North rhwng Amwythig, Y Drenewydd a Llanidloes, Y Trallwng a Chroesoswallt a Wrecsam a Chroesoswallt.
6. Pryd fedrai i gymryd mantais or disgownt a gynigir gyda fy Mhas Fflecs?
I bob gostyngiad arall i atyniadau twristiaid, Hosteli Ieuenctid maen nhw ar gael yn ystod cyfnod dilysrwydd y tocyn Hyblyg yn unig.
7. Oes gennych unrhyw gyngor wrth deithio ar drên?
Os ydych chin bwriadu teithio ar y rheilffordd ar amseroedd prysur megis gwyliau a nosweithiau Gwener argymhellwn eich bod yn archebu sedd. Os ydych yn bwriadu teithio gyda beic rhaid i chi sylweddoli na chaniateir
mynd â beic ar rai trenau prysur a bod gofyn archebu lle beic ar nifer o drenau. Ni ellir rhoi beic ar fws fel arfer.
8. Sut fedrai i gael ad-daliad os oes angen?
Ni wneir ad-daliadau oni ddychwelir y Pas Hyblyg ir swyddfa lle cafodd ei brynu cyn y dyddiad teithio cyntaf a ganiateir.
9. Beth ddylwn iw wneud os nad yw fy nhocynnau yn cyrraedd?
Cysylltwch â 0845 6061 660 os nad ywch tocynnau wedi cyrraedd o fewn pump diwrnod gweithio
10. Os oes gennyf anghenion teithio arbennig, beth ddylwn ei wneud?
Cymorth ir annabl
Oherwydd natur unigol anghenion teithwyr anabl, maen well gennym siarad yn uniongyrchol a chi er mwyn gwneud trefniadau. Cysylltwch an Adran Cymorth ar 0845 300 3005 fydd yn hapus ich cynorthwyo.
Teithio gyda anifeiliaid anwes
Fel arfer, maen bosib i gi ac anifeiliaid anwes eraill deithio yn rhad ac am ddim. Er hyn, fe fydd yn rhaid i chi gysylltu âr gweithredwr trên / bws yn uniongyrchol
11. Pa mor ddiogel yw fy nhaliad?
Maer gwasanaeth yma yn defnyddio technoleg SSL (Secure Sockets Layer), a gydnabyddir fel y gyfundrefn diogelwch mwyaf eang ar gyfer talu ar y we. Maer gyfundrefn yma yn amgodio manylion eich cerdyn wrth iddynt deithio drwyr we. Mae hyn yn rhwystro unrhyw un rhag ei gweld.
|