Disgrifiad
Am antur ar gyfer y teulu a hwyl yn y goedwig, ymwelwch a Pharc Coedwig Greenwood, rhwng Caernarfon a Bangor. Teithiwch ar ein car sglefrio eco cyfeillgar, llithr enfawr a clustog sbonc. Peidiwch a cholli y Twr Uwchben y Coed a Chychod y Jyngl!
O fewn y Neuadd Fawr Canol Oesoedd, darganfyddwch ein arddangosfa, siop anrhegion a caffi. Newydd yn 2008 – Cerbydau Lleuad! Hwyl Fformiwla Un!
Teithio ar y Bws
Maer arhosfan fysiau agosaf oddeutu un km i ffwrdd ac yn cael ei gwasanaethu gan wasanaeth 5X (5 ar y Sul) Arriva Cymru rhwng Caernarfon, Bangor a Llandudno. Maer gwasanaeth yn rhedeg bob awr bob dydd gan gynnwys ar y Sul.
Teithio ar y Trên
Yr orsaf rheilffordd agosaf yw Bangor, sydd oddeutu naw km i ffwrdd ac yn cael ei gwasanaethu gan drenau rhwng Caergybi a Crewe. Maent yn rhedeg oddeutu bob awr yn ystod yr wythnos. Gellir teithio oddi yno ar fws fel y nodir uchod.